Sgoriau rhagorol gan CIW a sgoriau rhieni o 10/10 ar draws sawl lleoliad. Rydym yn cynnig gofal o 6 wythnos i 5 mlynedd gydag opsiynau hyblyg, gofal cofleidiol, amser tymor yn unig a lleoedd yn ystod gwyliau ysgol ar gael. Ymholiwch nawr am ragor o wybodaeth, derbynnir pob math o gyllid.

clock-icon Dyma pam mae teuluoedd yn dewis ni

Dysgu Ysbrydoledig gan Montessori

Mae ei’n dull wedi’i ysbrydoli gan Montessori yn addasu gweithgareddau’n ofalus i anghenion, diddordebau a chamau datblygiad unigol pob plentyn, gan eu galluogi i archwilio, darganfod a thyfu gyda hyder a chwilfrydedd.

Darganfyddwch mwy am ein dull Montessori trwy glicio yma

Bwyd organig wedi’i baratoi’n ffres

Mae ein cogyddion yn paratoi ac yn coginio prydau organig blasus yn y meithryn pob dydd ac mae pob pryd wedi’i greu’n ofalus i gefnogi iechyd, lles a datblygiad plant.

Cliciwch yma i weld sampl or bwydlen

Sicrwydd Ansawdd a Chydymffurfiaeth

Yn falch i gael sgor ‘Eithriadol’ yn ein lleoliadau Radnor Road, Penarth a Phontcanna. Mae pob un o’n meithrinfeydd yn cael eu harchwilio gan Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW), a’n Pennaeth Archwilio a Hyfforddiadau mewnol yn sicrhau bod pob meithrinfa’n cynnal y safonau uchaf o ofal ac addysg.

Gallwch weld adroddiad arolygu diweddaraf CIW pob meithrinfa trwy clicio ar y meithrinfeydd unigol, sydd wedi’u lleoli wrth ymyl y dewisiadau Ymholi a Threfnu Taith.

Amgylcheddau naturiol a chynaliadwy

Mae ein hamgylcheddau wedi’u paratoi’n ofalus, gan ddefnyddio deunyddiau naturiol a chynaliadwy sy’n ysbrydoli chwilfrydedd ac annibyniaeth. Mae gofodau tawel a threfnus, adnoddau pren hardd, a phrofiadau dysgu awyr agored bob dydd yn galluogi plant i archwilio ar eu cyfradd eu hunain tra’n datblygu canolbwyntio, creadigrwydd a pharch at y byd o’u cwmpas.

Partneriaethau cryf gyda rhieni

Rydym yn adeiladu partneriaethau gwirioneddol gyda theuluoedd drwy gyfathrebu agored, diweddariadau rheolaidd a prosesau croesawu cefnogol. Gyda’n gilydd, rydym yn creu cysondeb, diogelwch a hyder i bob plentyn.

Ein tîm profiadol a brwdfrydig

Mae ein tîm profiadol a brwdfrydig yn ymroddedig i arwain taith ddysgu pob plentyn, i ddiogelu, cefnogi lles emosiynol, a darparu profiadau cyfoethog a deniadol.

Darganfod Mwy

Dysgu ysbrydoledig gan Montessori

Rydym yn cyfuno egwyddorion wedi’u hysbrydoli gan Montessori â Fframwaith Blynyddoedd Cynnar Cwricwlwm Cymru i ddarparu dull cyfannol dan arweiniad y plentyn. Trwy archwilio ymarferol, sgiliau bywyd, dysgu yn yr awyr agored, a chefnogaeth lles emosiynol, mae plant yn datblygu hyder ac annibyniaeth trwy dysgu

Tref dyddiol gydbwys a meithrinol

Mae pob dydd wedi’i strwythuro’n ofalus i ddarparu’r cydbwysedd delfrydol o ofal, dysgu, chwarae a gorffwys — gan greu rhythm tawel a phwrpasol sy’n cefnogi lles a datblygiad pob plentyn.

Amgylcheddau ysbrydoledig

Mae pob un o’n lleoliadau yn cynnig amgylcheddau tawel a naturiol, wedi’u cynllunio’n ofalus i ddiwallu anghenion gwahanol grwpiau oedran.  Mae pob gofod wedi’i baratoi’n ofalus i feithrin annibyniaeth, chwilfrydedd a hyder ar bob cam o ddatblygiad.

clock-icon Partneriaethau cryf gyda rhieni

Gwyddom fod rhieni wrth galon taith ddysgu pob plentyn. Dyna pam mae ein ap yn eich galluogi i ddilyn eu dydd, gweld gweithgareddau wedi’u cynllunio, a chyfranogi yn y hwyl — fel y gallwch barhau i ddysgu ac archwilio gyda’ch gilydd adref.

Darganfod Mwy

❤️ Llais rhieni

Mae ein teuluoedd yn ein sgorio’n gyson ymhlith y meithrinfeydd gorau yng Nghymru, gyda adborth rhagorol am ofal, maeth, cyfathrebu a’n hamgylcheddau dysgu ysbrydoledig

Recent News

Where to Find Us